Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (81) |
1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf.
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 5 a 7 - 9. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl.
Pwynt o Drefn
Dechreuodd yr eitem am 15.00
Cododd Ken Skates bwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 17.22 ynghylch penodi cadeirydd dros dro mewn pwyllgor a pha mor hir y dylai’r pwyllgor aros cyn gwneud hynny yn absenoldeb y Cadeirydd.
Dywedodd y Llywydd nad yw hyn yn bwynt o drefn iddi hi gan fod y pwyllgorau yn gyfrifol am eu gweithdrefnau eu hunain, gan gynnwys penodi cadeirydd dros dro yn absenoldeb y Cadeirydd o dan Reol Sefydlog 17.22. Nododd hefyd y dylai’r Aelodau roi gwybod i’r clerc, fel mater o gwrteisi, os na allant fod yn bresennol mewn pwyllgor.
Cynnig I atal y Rheolau Sefydlog
Dechreuodd yr eitem am 15.02
NNDM5045 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan eitemau 3, 4 a 5 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 18 Gorffennaf 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
3. Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5038 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
13 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig.
4. Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012
Dechreuodd yr eitem am 15.17
NDM4988 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud y Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012
Dechreuodd yr eitem am 15.20
NDM5037 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6. Dadl ar adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Ragolygon ar Gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.26
NDM5041 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ragolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2012.
Er gwybodaeth, gosodwyd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y Broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop
Dechreuodd yr eitem am
16.20
NDM5042 Nick Ramsay (Mynwy)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5043
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hyder yn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Cyfnod
Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18.04
9. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.06
NDM5044 Aled Roberts (Gogledd Cymru): Dyslecsia ac Ysgolion:
Cydweithio i Wneud Gwahaniaeth.
Mae angen cefnogaeth ar holl ddisgyblion Cymru i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, ac mae’n hanfodol bod pobl ifanc sydd â dyslecsia yn gallu cael yr asesiadau, yr ymyriadau a’r cymorth ychwanegol priodol y bydd eu hangen arnynt yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Mae’r ffordd y mae athrawon yn defnyddio eu sgiliau, eu dulliau a’u cymwyseddau gyda phobl ifanc sydd â dyslecsia yn hollbwysig a gall wneud byd o wahaniaeth i gyfleoedd bywyd plentyn.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:34
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mawrth, 25 Medi 2012